1 I serch a roes merch i mi
2 Seren kylch nant y Seri
3 Morwyn wych nid y marn av
4 Morfydd wyl mawr feddyliav
5 cyd collwyf o wiwnwyf vthr
6 fy anrhaith a fv iawnrhvthr
7 kyd bv brid yn newid ni
8 prid oedd i'r priod iddi
9 [108v] Eithr rhag anfodd vthr geinfyw
10 Duw fry diedifar yw
11 Gwedi i chariad brad fv'r braw
12 lloer byd rhoi llaw ar beidiaw
13 O cherais wraig mewn meigoel
14 Wrth lynn y porthmonnyn moel
15 Gwragenvs esgvs osgordd
16 Gwraig ryw bennaig Robin Nordd
17 Elen chwannog i olvd
18 fy anrhaith ar lediaith lvd
19 Brenhines Arglwyddes gwlan
20 Brethyndai bro eithindan
21 dyn serchog oedd raid yno
22 Gwae hi nad fyfi fai fo
23 Ni chymmer hon wiwdon wedd
24 gerdd yn rhad gwrdd anrhydedd
25 Hawdd ym gael gafael gyfa
26 haws na dim hosanav da
27 Ac os caf liw gwynnaf gwawn
28 O fedlai hi a'm gwna'n fodlawn
29 Nid ydwyf nwyf anofal
30 Rho dvw heb gaffel rhyw dal
31 [109r] Ai ar eiriav arwyrain
32 Ai ar feddwl cerddgar cain
33 Ai ar avr cyd dihavrwyf
34 Ai ar ryw beth arab wyf
35 hefyd cyd bo fynhafawd
36 I Ddyddgv yn gwev gwawd
37 Nid oes i'm myn Duw o swydd
38 Ond olrhain anwadalrhwydd
39 Gwawr brenhiniaeth maeth a'i medd
40 Y byd wyr yw'r bedwaredd
41 Ni chaiff o'm pen cymmen call
42 hoen geirw na hi nac arall
43 Nai henw na'r wlad yr hanoedd
44 hoff iawn yw na pha vn oedd
45 Nid oes na gwraig bennaig nwyf
46 Na gwr kymmin a garwyf
47 Ar forwyn glaer galchglaer gylch
48 Nos da iddi nis diylch
49 Kair gair o garv'n ddiffrwyth
50 Kaf nid arbedaf i bwyth
51 Be i gwypai gobaith vndyn
52 [109v] Mai am dani hi fai hynn
53 Pe cynddrwg gan em rudddeg
54 Genthi ai chrogi wych reg
55 Mwy lawnbwys mav elynboen
56 Moli a wnaf hi Nyf hoen
57 hoyw ei llvn a holl wynedd
58 ai mawl gwyn ei fyd ai medd
Da' ap Glm'